Maesteg 200
Celebrating 200 Years
Dathlu 200 Mlynedd
Maesteg Town Hall 1908

Happy Birthday Maesteg! – Penblwydd Hapus Maesteg!

John Rees was born and brought up in Maesteg and now lives in Ystradgynlais. John studied Welsh and English at Trinity College Carmarthen and taught for a number of years in Brecon. 20 years ago he co founded the business ‘Cow & Ghost Vintage’ who organise and stand at antique events in South West Wales. Shop space has been at Bazaar Vintage and Antique Warehouse in Narberth for many years. John co presented the successful S4C television series “Trysorau’r Teulu” and regularly appears on S4C’s “Prynhawn Da”. John is a frequent guest on Radio Cymru, notably the “Bore Cothi” programme. He has been a columnist for the Welsh learner’s magazine ‘Lingo 360‘ for eight years. His most recent item for them is an article on the history of Maesteg.


Dych chi’n byw yn yr un ardal lle cawsoch chi eich geni? Mae rhai pobl yn symud nifer o weithiau neu’n teithio’n bell, tra bod eraill yn aros yn eu milltir sgwâr drwy gydol eu hoes.

Os oes rhywun yn gofyn i fi o ble dw i’n dod, dw i’n falch o ddweud fy mod i’n dod o Faesteg. Ges i fy ngeni ychydig dros hanner canrif yn ôl yn ysbyty cymunedol y dref un prynhawn dydd Iau ym mis Mawrth. Wnes i fyw yn eitha agos i’r ysbyty am bron i ddegawd cyn symud i Gwm Tawe, ble dw i’n byw o hyd. Mae bron yn amser i ddathlu fy mhen-blwydd – ac mae hefyd yn ddyddiad pwysig i Faesteg. Mae’r dref yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed eleni.

Gyda chysylltiad agos â’r ardal, roedd diddordeb mawr gyda fi i ddarganfod tarddiad y dyddiad hwn a hefyd i geisio sefydlu llinell amser i le sy mor gyfarwydd.

Fel mae’r enw “maes teg” yn awgrymu, ardal wledig ac amaethyddol oedd y tir yng Nghwm Llynfi yn y canrifoedd cyn y Chwyldro Diwydiannol. Dim ond ychydig o ffermydd oedd yno a phoblogaeth fechan. Yr anheddiad agosaf, tua dwy filltir i ffwrdd, oedd Llangynwyd. Yn agos i Langynwyd mae olion pentref Oes Haearn sy’n cael ei alw nawr yn ‘Y Bwlwarcau’.

Mae’n eitha tebygol taw dyma’r dref gyntaf yn y cwm. Yn yr Oesoedd Canol roedd y dyffryn yn rhan o Dir Iarll, ardal oedd yn enwog am ei harddwch. Roedd hefyd yn dir hela i Robert Fitzhamon, y gorchfygwr Normanaidd o Forgannwg. Hyd at y 18fed ganrif roedd nifer o’r ffermydd yng Nghwm Llynfi yn ganolfannau diwylliant. Roedd llenorion a beirdd Morgannwg yn dod at ei gilydd yn fferm Llwydarthyn.

Maesteg yn Dod yn Dref Swyddogol

Yn y 19eg ganrif daeth diwydiant i newid y byd bach yma. Dyma ble mae’r gymuned bresennol yn dechrau. Gwelodd datblygwyr botensial adnoddau helaeth mwyn haearn a glo’r cwm a dechreuon nhw ei weithio ar raddfa enfawr.

Cafodd Gwaith Haearn ei adeiladu ar dir Fferm Maesteg Uchaf sy’n agos i beth sydd nawr yn ganol y dref. Cafodd tai eu codi i’r gweithwyr a daeth Maesteg yn dref swyddogol yn 1826, gan gymryd ei henw o’r fferm. Cafodd ail waith haearn ei godi yn 1839. Roedd y diwydiant yn eitha llwyddiannus hyd at bron diwedd y ganrif pan ddaeth cynhyrchu dur yn fwy poblogaidd. Newidiodd y 19eg ganrif y dyffryn am byth. Roedd llawer o adeiladau o bob math a daeth y rheilffyrdd.

Y Diwydiant Glo

Doedd gweithfeydd haearn Maesteg ddim yn addas i newid i gynhyrchu dur ac roedd cyfnod o ansicrwydd yn yr ardal. Daeth y bennod nesaf gyda datblygiad y pyllau glo. Roedd y diwydiant glo wedi datblygu yn ystod y cyfnod cynhyrchu haearn, ond yn 1889 dechreuodd y Cyrnol John North gwmni North’s Navigation Collieries ac roedd datblygiad anhygoel yn yr ardal.

Cafodd pwll glo St John’s ei agor a thyfodd poblogaeth y dre o 10,000 yn 1891 i 30,000 erbyn 1921. Cafodd stryd ar ôl stryd o dai eu hadeiladu a hefyd sawl adeilad cyhoeddus sy’n sefyll o hyd. Daeth Maesteg yn enwog ledled y byd am lo o ansawdd da. Cafodd tunelli eu hallforio dros y byd. Parhaodd y diwydiant hyd 1985 pan gafodd y pwll glo olaf ei gau.

Diwylliant Cyfoethog

Y dyddiau hyn mae Maesteg yn dref breswyl boblogaidd iawn. Mae ffatrïoedd, siopau ac ystadau diwydiannol yn creu swyddi ac mae’n dref sy’n gyfoethog yn ei diwylliant. Mae sawl adeilad newydd trawiadol, ond yr adeiladau o gyfnod y diwydiant haearn a glo sy’n sefyll allan. Esiamplau gwych ydy Neuadd y Dref, yr ysbyty, a’r tai Fictoraidd ac Edwardaidd.

Roedd diddordeb gyda sawl aelod o fy nheulu yn hanes y lle a dw i wedi dysgu llawer. Mae cliwiau i hanes a datblygiad Maesteg ym mhobman fel sydd ym mhob tref a phentref. Mae strydoedd wedi’u henwi ar ôl hen ffermydd yr 17eg ganrif ac adeiladau wedi’u henwi ar ôl y bobl oedd yn bwysig yn yr oes ddiwydiannol. Mae’n lle llawn hanes, diwylliant a dirgelwch. Rhywle dw i’n falch o ddweud fy mod i’n dod ohono. Pen-blwydd Hapus Maesteg!

Thank you to Lingo 360 for permission to publish this article.